Archive | May, 2013

Anadl Cariad

25 May

Ymhell o undonedd y dyrfa

Mae tonnau anadl cariad

Perffeithrwydd myfyrdod natur

Y galon a’r nenfwd yn un

Tristwch mewn coflaid cariad,

Perffeithrwydd fy ysbrydoliaeth

yn chwarae ar gangen amser

Gwnio Amser

17 May

Mewn amser perffaith rhwng nos a dydd

Gwnio amser gyda fflam fy nghalon.

Rhodiaf ger yr awel

Dan loches y nant

I ddenu cofleidiad amser

I’m naddu i’r lloer

Traeth Angau

14 May

Chwarae ger traeth amser

Ffarwelio a lloches

Sibrwd cusan angau

O dan nenfwd cariad y lloer

Cysgu ymhell o undonedd y byd

Pelydrau cynefin yn esmwytho briw angau

Traeth y meirw ar lanw amser

Mynd a dod mewn poen a heddwch

Enaid

5 May

image

Darganfod fy enaid o fawn dyfnder poen

Does dim ond tonnau y mor yn gwneud synwyr

Gwrach sidan heulwen y lleuad yn treiddio llwybr pelydrau’r gwanwyn yn y gaeaf

Nid oes dim ar gael ond lloches enaid

Ymhell o oleuni synnwyr yn ogofau tristwch

Does dim I wneud ond cerdded yn bellach

Tuag at ffynhonell amser

Ffynhonell poen ynghlwm a cariad

Unigrwydd

2 May

Tir y gwaed

Yn unig y rhodiaf

Mwynder yr awel

Tristwch fy nghalon

Tymestl amser

Gogoniant y lloer